Text Box: Y Gwir Anrhydeddus Stephen Crabb AS
 Swyddfa Cymru
 Tŷ Gwydyr
 Whitehall
 Llundain 
 SW1A 2NP

 

16 Tachwedd 2015

Annwyl Stephen,

Bil Cymru drafft

Manteisiodd y Pwyllgor Menter a Busnes ar y cyfle i drafod Bil Cymru drafft yn ein cyfarfod ar 5 Tachwedd 2015. 

Rydym yn deall mai bil drafft yw hwn, a'i fod ymhell o fod yn gynnyrch gorffenedig. Serch hynny mae gan y Pwyllgor bryderon difrifol ynglŷn â'r Bil fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd. Deallaf y bydd rhagor o drafodaethau'n cael eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a Swyddfa Cymru, ond teimlwn nad oes modd inni roi sylwadau arno heb ragor o eglurhad oherwydd bod cymaint o amwysedd yn y drafftio mewn llawer o feysydd.

Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad sy'n arwain o ran y 'profion' sy'n berthnasol i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, felly rwyf wedi cyfyngu sylwadau cychwynnol y Pwyllgor i'r cymalau cadw sy'n ymwneud â'n cylch gwaith ni.

Yn nhrafodaeth y pwyllgor, roedd ystafell yn llawn o ddeddfwyr profiadol yn ei chael yn anodd deall yr hyn y mae'r bil yn ei wneud a'r hyn y mae'n ceisio ei wneud. I'r rhai nad ydynt wedi arfer darllen a drafftio cyfreithiau, mae'n anodd iawn ei ddeall yn ei ffurf bresennol. Mae eglurder ac ymarferoldeb yn egwyddorion pwysig o safbwynt deddfwriaeth, ac rwyf yn siŵr y gellir gwneud mwy yn y cyswllt hwn.

Rhestrir y materion y cynigir eu cadw'n ôl yn Atodlen 7A o'r Bil drafft ac mae nifer o'r rhain, sydd wedi'u grwpio o dan dri phrif bennawd: Masnach a Diwydiant, Trafnidiaeth, a Chyflogaeth, yn effeithio'n uniongyrchol ar nifer o feysydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor.

Yn Atodiad A rwyf wedi rhoi crynodeb o'r pryderon sydd gan y Pwyllgor yn y meysydd hynny, ynghyd â chwestiynau penodol. Rwyf yn ysgrifennu yn y gobaith y bydd eich swyddfa'n rhoi arweiniad clir i'r Pwyllgor ynglŷn ag effaith y darpariaethau ar gymhwysedd presennol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac esboniad pan fo'r cymhwysedd wedi'i leihau. 

Mae'r cwestiynau hyn yn nodi ein pryderon cychwynnol ynghylch cwmpas y Bil.  Rhagwelwn y byddwn yn cael rhagor o drafodaethau fel pwyllgor pan fydd mwy o fanylion ar gael, a byddaf yn ysgrifennu atoch wrth i'r Bil fynd rhagddo.

Cofion cynnes,

WG Signature

 

William Graham

Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes            

 

 

Cc. David Melding, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

David Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig

 


 

Bil Cymru Drafft - Y Pwyllgor Menter a Busnes

Atodiad A

Mae Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gofyn am eglurhad ynglŷn â'r meysydd penodol canlynol ym Mil Cymru drafft:

Atodlen 7A - Pennawd C - Masnach a Diwydiant

1.0 Adran C6 Diogelu defnyddwyr

1.1     Mae'r eithriad presennol yn Atodlen 7 o Ddeddf Llywodraeth Cymru yn rhwystro'r Cynulliad rhag deddfu ynghylch  'consumer protection, including the sale and supply of goods to consumers, consumer guarantees, hire purchase, trade descriptions, advertising and price indication .............'

1.2     Mae'r setliad newydd yn cynnwys disgrifiad manylach o'r hyn y mae'r cymal cadw 'diogelu defnyddwyr' yn ei gynnwys. Er enghraifft mae mater a gedwir yn ôl 70 yn y setliad newydd yn cynnwys y geiriau ychwanegol ‘supply of services to consumers’.

1.3     Nid yw'r geiriau hyn i'w gweld yn yr eithriad presennol mewn perthynas â diogelu defnyddwyr yn Atodlen 7 o Ddeddf Llywodraeth Cymru, ac mae geiriad y mater hwn a gedwir yn ôl felly yn gulach.

Hoffai'r Pwyllgor gael eglurhad a yw cyflenwi gwasanaethau i ddefnyddwyr yn berthnasol yng nghyd-destun Deddf Gwerthu Nwyddau 1979 yn unig ynteu a fwriedir iddo fod yn gymwys yn ehangach ar draws gwahanol fathau o wasanaethau i ddefnyddwyr yn fwy cyffredinol, e.e. gwasanaethau bws ac ati.

1.4     Yn ogystal, mae'r setliad newydd yn cynnwys y geiriau 'safety of, and liability for, services supplied to consumers'. Nid yw'r geiriau hyn ychwaith i'w cael ar hyn o bryd yn Atodlen 7 o Ddeddf Llywodraeth Cymru, ac felly maent yn lleihau cymhwysedd y Cynulliad.

Mae'r Pwyllgor yn dymuno deall pam mae'r cymhwysedd hwn yn cael ei leihau.

1.5     Mewn perthynas â mater a gedwir yn ôl 72 a’r cyfeiriad at 'werthwyr tai', gall y Cynulliad ar hyn o bryd ddeddfu ym maes hyrwyddo busnes a chystadleurwydd ac nid oes cyfeiriad penodol at werthwyr tai yn Atodlen 7. Mae potensial felly i'r mater hwn a gedwir yn ôl leihau cymhwysedd y Cynulliad mewn perthynas â gwerthwyr tai.

Mae'r Pwyllgor yn dymuno deall y bwriad y tu ôl i'r potensial hwn i leihau cymhwysedd.

 

2.0  Cymal cadw C7 Safonau a diogelwch cynnyrch, ac atebolrwydd

2.1     Mae'r mater a gedwir yn ôl yn y setliad newydd yn cyfeirio at ‘technical standards and requirement in relation to products in pursuance of an obligation under EU law’

2.2     Nid yw'n glir a yw'r mater hwn a gedwir yn ôl yn cael yr effaith o atal y Cynulliad rhag gwneud deddfwriaeth sy'n rhoi'r Gyfarwyddeb Safonau Technegol ar waith.

Byddai'r pwyllgor yn croesawu rhagor o eglurhad ynglŷn â chwmpas mater a gedwir yn ôl 75.

2.3     Nid yw'r canlynol yn eglur - 'the national accreditation body and the accreditation of bodies which certify or assess conformity to technical standards in relation to products or environmental management systems.'

Byddai'r pwyllgor yn croesawu rhagor o eglurhad ynglŷn ag ystyr mater a gedwir yn ôl 76.

3.0   Adran C12 Ardaloedd a gynorthwyir a chyfyngiadau ar gymorth ariannol i ddiwydiant

3.1     Mae mater a gewir yn ôl 89 yn cyfyngu cymhwysedd y Cynulliad mewn perthynas â:

Section 1 and Section 8(5) (7) of the Industrial Development Act 1982 (‘the 1982’ Act)

3.2     Mae Adran 1 yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy Orchymyn, bennu unrhyw ardal o Brydain yn ardal ddatblygu neu’n ardal ganolradd. Yn ogystal, mae Adran 8 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddarparu cymorth ariannol ar gyfer diwydiant.

3.3     Er bod pwerau gweithredol yn cael eu cadw ar gyfer Gweinidogion Cymru o dan Adran 8 o Ddeddf 1982, fe allai'r ffaith bod pwnc Deddf 1982 wedi ei gynnwys gulhau gallu'r Cynulliad i ddeddfu o dan eiriad presennol Atodlen 7 o Ddeddf Llywodraeth Cymru a'r pennawd cyffredinol 'adfywio a datblygu economaidd'.

Mae'r Pwyllgor yn dymuno deall pam mae gallu'r Cynulliad i ddeddfu yn cael ei gulhau mewn perthynas â Deddf Datblygu Diwydiannol 1982.

3.4    C15: Cymorth mewn cysylltiad ag allforio nwyddau a gwasanaethau ac ati

3.5     Mae mater a gedwir yn ôl 92 yn ymwneud â phwnc Deddf Gwarantau Allforio a Buddsoddi 1991. Mae gan Weinidogion Cymru rai pwerau o dan Ddeddf 1991 sy'n eu galluogi i gefnogi allforwyr. Yn ogystal, mae rhai o ddarpariaethau Deddf 1991 o fewn cymhwysedd presennol y Cynulliad ym maes datblygu economaidd, yn benodol hyrwyddo busnes a chystadleurwydd. Mae hyn felly'n lleihau cymhwysedd y Cynulliad.

Mae'r Pwyllgor yn dymuno deall pam mae'r cymhwysedd hwn yn cael ei leihau ac mae angen i gwmpas y mater hwn a gedwir yn ôl fod yn eglur.

 

4.0   Pwerau newydd ym maes Trafnidiaeth

4.1     O dan y setliad newydd, byddai'r Cynulliad yn ennill cymhwysedd i ddeddfu mewn perthynas â'r meysydd a ganlyn:

·         Cofrestru gwasanaethau bysiau lleol, a gweithredu a gorfodi amodau rheoleiddio traffig mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny

·         Terfynau cyflymder - heblaw am eithriadau rhag terfynau cyflymder h.y. terfynau cyflymder ar gyfer y gwasanaethau brys

·         Trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat

·         Trwyddedu gweithredwyr cerbydau hurio preifat

·         Harbyrau, ond nid safonau diogelwch mewn harbyrau

4.3     O dan y Bil drafft, rhoddir pwerau gweithrediaeth ychwanegol i Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r meysydd a ganlyn:

·         terfynau cyflymder

·         harbyrau Cymru

·         rhai swyddogaethau gweithrediaeth penodol mewn perthynas â thacsis

·         rhai swyddogaethau gweithrediaeth penodol mewn perthynas â Chomisiynwyr Traffig

Mae'r pwyllgor yn croesawu'r pwerau ychwanegol hyn i'r Cynulliad ddeddfu yn y pynciau penodol hyn a'r cynnydd ym mhwerau gweithrediaeth Gweinidogion Cymru mewn perthynas â hwy.

Mae'r canlynol yn nodi barn y Pwyllgor ynghylch cymalau cadw penodol o dan Bennawd E - Trafnidiaeth yn y Bil drafft.

5.0 Adran E1 Trafnidiaeth ffyrdd

5.1     Mae mater a gedwir yn ôl 111 yn ymwneud â thrwyddedu gyrwyr ac mae'n cynnwys hyfforddiant, profi ac ardystio. O dan Atodlen 7 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ar y llaw arall, cyfeirir ato fel 'trwyddedu gyrwyr' yn unig.

5.2     Mae'r geiriad, felly, yn gulach o dan y setliad newydd, a gallai'r ffaith bod y gair 'training' wedi'i gynnwys effeithio ar allu'r Cynulliad i ddeddfu mewn perthynas â hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd.

5.3     Mae hyn felly yn lleihau cymhwysedd y Cynulliad ac mae angen i gwmpas y mater hwn a gedwir yn ôl fod yn fwy eglur.

Byddai'r pwyllgor yn croesawu rhagor o eglurhad ynglŷn â chwmpas y mater hwn a gedwir yn ôl. Hefyd, ceisir eglurhad y bydd y Cynulliad yn gallu parhau i ddeddfu mewn perthynas â hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd.

5.4   Yn ogystal, mae'r Pwyllgor yn nodi y ceir mater penodol a gedwir yn ôl, 117, ar gyfer arwyddion traffig. Nid yw hyn i'w weld yn rhesymegol, o ystyried y pwerau newydd ar derfynau cyflymder yn gyffredinol.

Byddai'r Pwyllgor yn croesawu rhagor o eglurhad ynglŷn â'r hyn a fwriedir.

6.0     Adran E2 Trafnidiaeth rheilffyrdd

6.1     Mae'r eithriad presennol o dan Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru, yn cyfeirio at ddarparu a rheoleiddio gwasanaethau rheilffyrdd.  O dan y setliad newydd, mae mater a gedwir yn ôl 123 yn nodi ‘railway services’ yn unig.

6.2     Mae hyn felly, yn lleihad posibl mewn cymhwysedd ac mae angen eglurhad pellach ynghylch cwmpas y mater hwn.

Byddai'r pwyllgor yn croesawu rhagor o eglurhad ynglŷn â chwmpas y mater hwn a gedwir yn ôl, ac mae'n awyddus i ddeall bwriad y lleihad arfaethedig hwn o ran cymhwysedd.

7.0 E3 Trafnidiaeth ar y môr ac ar ddyfrffyrdd

7.1     Mae'r eithriad presennol o dan Atodlen 7, yn cyfeirio at longau, ac mae dau eithriad penodol sy'n ymwneud â chymorth ariannol ar gyfer gwasanaethau llongau i Gymru ac o Gymru neu o fewn Cymru, a rheoleiddio'r defnydd o longau sy'n cludo anifeiliaid. Fodd bynnag, yn y setliad newydd, mae'r mater a gedwir yn ôl wedi'i eirio fel a ganlyn ‘shipping and other marine and waterway transport including the subject matter of...' Mae hyn felly'n lleihau cymhwysedd y Cynulliad.

 

Mae'r Pwyllgor yn dymuno deall pam mae’r cymhwysedd hwn yn cael ei leihau.

 

7.2  Nid yw geiriad mater a gedwir yn ôl 128 mewn perthynas â gwasanaethau chwilio ac achub a gwasanaethau gwylwyr y glannau yn eglur.

 

Byddai’r pwyllgor yn croesawu eglurhad pam nad yw'r ymadrodd hwn yn cynnwys y gwasanaethau tân ac achub.

 

8.0    E6: materion eraill

8.1     Mae'r eithriad presennol yn Atodlen 7 yn cyfeirio at fanyleb dechnegol ar gyfer tanwydd i'w ddefnyddio mewn peiriannau mewndanio, ac mae mater a gedwir yn ôl 137 yn y setliad newydd yn cyfeirio at yr un peth, fel a ganlyn:

‘technical specifications for fuel or other energy sources or processes for use in road, rail, marine waterway or air transport’

8.2     Mae geiriad y setliad newydd yn fwy cyfyng ac yn cynnwys mathau ehangach eraill o deithio, ac yn cyfeirio at yriant heblaw peiriannau mewndanio, felly mae yma leihad o ran cymhwysedd.

Mae'r Pwyllgor yn dymuno deall pam mae’r cymhwysedd hwn yn cael ei leihau.

 

9.0      Rheoleiddio bysiau

Mae'r potensial ar gyfer rheoleiddio bysiau yng Nghymru yn faes y bu gan y Pwyllgor ddiddordeb ynddo eisoes, ac mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod angen rhagor o bwerau. Gweler isod enghraifft a gafodd Pwyllgor yn dangos sut y gallai maes rheoleiddio bysiau gael ei ystyried yn y setliad newydd.

9.1     Enghraifft: O dan y setliad newydd, mae modd i'r Cynulliad ddeddfu ynghylch cofrestru bysiau lleol.  At hynny, dywedodd yr Adran Drafnidiaeth wrth y Pwyllgor ym mis Medi 2015 ei bod yn credu bod gan y Cynulliad/Gweinidogion Cymru bwerau i reoleiddio bysiau eisoes.

9.2     Yn y ddeddfwriaeth bresennol, mae pwerau gweithrediaeth cyfyngedig fel y gall Gweinidogion Cymru/awdurdodau lleol gydgysylltu gweithrediadau bysiau. Ceir y pwerau hynny yn y Ddeddf Drafnidiaeth a Deddf Trafnidiaeth Leol 2008, ac maent yn cynnwys Partneriaethau Gwirfoddol a Statudol a Chontractau Ansawdd Statudol.

9.3     Mewn egwyddor, dylai'r ddau ddull uchod ganiatáu ar gyfer rheoleiddio bysiau yng Nghymru. Fodd bynnag, mae cafeat i hyn. Y rheswm am hyn yw bod rhai o'r manteision posibl sy'n gysylltiedig â rheoleiddio yn cynnwys y posibilrwydd y gellid capio a rheoleiddio prisiau tocynnau a thocynnau integredig. Nid yw'n glir a fyddai meysydd fel hyn yn rhan o'r cymalau cadw canlynol:

C3: Competition: reservation 67 ‘Regulation of anti-competitive practices and agreements; abuse of dominant position; monopolies and mergers.

C6: Consumer protection: reservation 70 ‘Regulation of the sale and supply of……. services to consumers’

 

Byddai'r pwyllgor yn croesawu eglurhad y bydd y Bil drafft yn caniatáu ar gyfer rheoleiddio bysiau yng Nghymru ac y bydd hefyd yn cynnwys meysydd fel prisiau tocynnau a thocynnau integredig nad ydynt wedi'u cynnwys yn y cymalau cadw uchod, os digwydd i'r Cynulliad fynd ar drywydd opsiwn o'r fath yng Nghymru.

 

10.0.   Atodlen 7A – Pennawd H – Cyflogaeth

10.1  Adran H1 – Cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol

10.2   Ar hyn o bryd, caiff y Cynulliad ddeddfu ar 'bynciau tawel' (pynciau nad ydynt wedi'u datganoli, nac yn eithriadau o dan Atodlen 7) ar yr amod eu bod yn ymwneud â phwnc a roddwyd o dan Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru a'r setliad presennol.

10.3   Cadarnhawyd hyn gan benderfyniad y Goruchaf Lys yn achos Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 lle dyfarnwyd bod y Ddeddf o fewn cymhwysedd er ei bod yn ymwneud ag 'amaethyddiaeth', sy'n bwnc datganoledig a 'chyflogaeth', sy'n bwnc tawel.

10.4   Yn y setliad newydd mae pwnc tawel 'cyflogaeth' wedi dod yn fater penodol a gedwir yn ôl o dan Bennawd H ‘Employment rights and duties and industrial relations including the subject of……….’ [yna cyfeirir at restr o ddeddfwriaeth benodol ynghylch cyflogaeth].

10.5   At hynny, mae eithriad penodol wedi'i wneud i'r cymal cadw hwn sy'n eithrio pwnc Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 ac yn gwarchod pwnc y Ddeddf hon.

10.6   Mae cynnwys 'cyflogaeth' yn fater a gedwir yn ôl yn y setliad presennol ar y cyd â'r profion deddfwriaethol newydd yn lleihad sylweddol o ran cymhwysedd y Cynulliad yng nghyd-destun cyflogaeth.

10.7   Mae Pennawd arall hefyd yn y setliad newydd, sef 'Y Proffesiynau', sy'n cynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol fel mater na ellir deddfu yn ei gylch.  I bob golwg, mae hwn yn gymal cadw ehangach na'r eithriad presennol yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru.

10.8 Rhoddwyd yr enghraifft ganlynol i'r Pwyllgor i ddangos sut y gallai Bil arfaethedig gael ei ystyried o dan y setliad newydd:

       Gallai Bil Cynulliad geisio deddfu ar gyflogau, amodau a hyfforddiant yn y sector gofal cymdeithasol mewn modd tebyg i Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014.

       O dan y setliad presennol, ac yng ngoleuni dyfarniad y Goruchaf Lys ar Ddeddf 2014, byddai Bil sy'n ymwneud â'r sector gofal cymdeithasol o fewn cymhwysedd.

       Yn yr Atodlen 7A arfaethedig, o dan Bennawd H, Adran H1, mae hawliau a dyletswyddau cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol yn faterion a gedwir yn ôl.  Golyga hynny y gallai'r Bil fod y tu allan i gymhwysedd.

       Mae'r unig eithriad i bwnc Deddf 2014 yn gwneud hyn yn fwy tebygol, gan awgrymu, er bod cyflogau amaethyddol, gwyliau a hyfforddiant o fewn cymhwysedd, y bydd y rhain yn faterion a gedwir yn ôl mewn sectorau eraill.

Mae'r Pwyllgor yn dymuno deall pam mae’r cymhwysedd hwn yn cael ei leihau o ran deddfu ar 'bynciau tawel', megis cyflogaeth, ar yr amod eu bod 'yn ymwneud â' phwnc a roddwyd o dan Atodlen 7. Mae hyn yn peri cryn bryder i'r Pwyllgor.

 

11.0 Adran H3 – Chwilio am swyddi a chymorth

11.1 Mae mater a gedwir yn ôl 156: 'Trefniadau ar gyfer cynorthwyo pobl i ddewis cyflogaeth, hyfforddi ar ei chyfer, ei chael a'i chadw, ac i gael gweithwyr addas' o bosibl yn culhau cymhwysedd y Cynulliad ar ddatblygu economaidd o dan Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru.

Mae'r Pwyllgor yn dymuno deall beth y disgwylir i'r mater hwn a gedwir yn ôl ei gwmpasu.

12.0  Meysydd penodol o ansicrwydd mewn perthynas â phwerau gweithrediaeth

12.1   Yn y Bil drafft, nid ymdrinnir â datganoli Masnachfraint Cymru a'r Gororau nac â throsglwyddo swyddogaethau gweithrediaeth Gweinidogion Cymru.

12.2   Yn ôl cyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi a pharagraff 2.5.10 o'r ddogfen Pwerau at Bwrpas:

12.3   'Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn datganoli swyddogaethau masnachfreinio i Lywodraeth Cymru i'w galluogi i arwain gwaith caffael a rheoli masnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau.'

Byddai'r Pwyllgor yn croesawu eglurhad ynghylch sut y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu datganoli swyddogaethau gweithrediaeth i Weinidogion Cymru mewn perthynas â Masnachfraint Cymru a'r Gororau, o ystyried nad oes darpariaeth yn y Bil drafft ar gyfer hyn.

12.4   Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn yn y gorffennol am newid Deddf Rheilffyrdd 1993 a fyddai'n caniatáu i gyrff yn y sector cyhoeddus gynnig am gontractau masnachfraint. Byddai hyn yn adlewyrchu'r sefyllfa yn yr Alban lle darperir ar gyfer masnachfraint yng nghymal 49 o Fil yr Alban ‘Rail: franchising of passenger services’. Nid oes darpariaeth debyg wedi'i gwneud yn y Bil drafft.

12.5   Wrth drafod goblygiadau Comisiwn Smith i Gymru, dywedodd cyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi y byddai dadansoddiad yn cael ei wneud o argymhellion perthnasol Comisiwn Smith yng nghyd-destun Cymru fel y gellir gwneud penderfyniadau yn fuan yn y Senedd nesaf ynghylch pa argymhellion i'w rhoi ar waith yng Nghymru.

12.6   Dywedodd swyddogion yr Adran Drafnidiaeth wrth y Pwyllgor ym mis Medi 2015 fod y mater yn cael ei drafod: “the UK Government agreed to consider which non-fiscal parts of the Smith Commission agreement, including that commitment, might be implemented for Wales. That consideration is on-going, and further discussions with the Welsh Government will take place shortly in the context of preparing the Wales Bill”.

Byddai'r Pwyllgor yn croesawu eglurhad ynghylch pa gynnydd a wnaed o ran cynnwys y ddarpariaeth hon yn adroddiad Comisiwn Smith ym Mil Cymru.